Chwilio'r Safle

Digwyddiad Nesaf

Dim digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Mae gennym 16 o westeion arlein
WAG Logo
Gwybodaeth am yr Ardal

Mae Abersystwyth yn fwy na thref glan môr arferol. Wedi'i lleoli ar dro prydferth Bae Ceredigion a chyda bryniau, mynyddoedd ac afonydd o gefnwlad heb ei difetha, gellid disgrifio Aberystwyth fel prifddinas diwylliant Cymru. 

Gan fod y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'u lleoli yma, mae cyfuniad iach o syniadau newydd a hanes a thraddodiad. Mae hi'n ardal o wrthgyferbyniadau; mae ei naws cosmopolitan yn mynd law yn llaw â ffordd wledig o fyw, lle mae bywyd yn hamddenol ac mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. Mae'r awyr yn iach a'r amgylchedd wedi'i warchod diolch i ganrifoedd o arferion ffermio. Yn y cymunedau clos mae'r cyfradd droseddu isaf yn y DU.