| Tirlun |
|
Mae Aberystwyth yn cynnig cyfuniad o arfordir a chefn gwlad gyda golygfeydd bythgofiadwy. Mae machlud haul dros y bae yn brydferthach fyth diolch i'r cefndir mawreddog y mae mynyddoedd Gogledd Cymru yn ei ychwanegu iddo, neu'r cipolwg a gewch ar y teulu preswyl o ddolffiniaid trwynbwl hyd yn oed. Mae'r dirwedd yn wrthgyferbyniol wrth i'r clogwyni uchel rhwng Aberystwyth a Chlarach agor i ehangder aber Dyfi a gwastadau halen arfordirol Ynyslas. Ac yn y tir oddi mewn, ychydig funudau'n unig o'r arfordir, mae clytwaith o fryniau ffrwythlon, gwyrdd a pherthi sy'n drwm o fieri a gwyddfid yn agor allan i olygfeydd mynyddig a'ch unig gwmni yw nant fyrlymog neu aderyn ysglyfaethus. Gyda'r tymhorau daw harddwch sy'n newid o hyd, o goedwigoedd trawiadol â chlychau'r gog yn y gwanwyn i'r mynyddoedd â'u copaon o eira yn y gaeaf. Cymerwch eich amser ac fe ddewch o hyd i bentrefi cudd yn swatio yn y bryniau, cewch fwynhau nentydd clir y mynyddoedd neu'r afonydd yn llifo'n dawel trwy lennyrch heddychlon. Dyma i chi wlad o gerdded y byddwch chi eisiau dychwelyd iddi dro ar ôl tro. |