| Diwylliant |
|
Mae'n debyg fod un o feirdd cyntaf Prydain ar gofnod, Taliesin o'r 16eg ganrif, wedi byw ac wedi ei gladdu ger pentref Taliesin sydd tua saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Ganwyd Dafydd ap Gwilym, y bardd canoloesol enwocaf un mae'n debyg, gerllaw ac mae wedi'i gladdu yn Abaty Ystrad Fflur i'r de o Aberystwyth. Mae ffurfiau newydd i farddoniaeth heddiw ond mae'r ifanc a'r hen yn dal i arfer traddodiad y gynghanedd, sy'n unigryw i Gymru ac yn aml yn cael ei ganu i gyfeiliant y delyn yn
ôl y traddodiad cerdd dant.
Y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n uchel ar y bryn uwchben Aberystwyth, yw un o chwe llyfrgell hawlfraint yn unig yn y DU ac mae'n cadw'r nifer fwyaf o ddeunydd sy'n ymwneud â'r Cymry a'u diwyllaint. Mae'r cofnod hynaf erioed o farddoniaeth Gymraeg i'w weld yn Llyfr Du Caerfyrddin ac mae'r arddangosfa barhaus, Treftadaeth Cenedl, hefyd yn arddangos amrywiol arteffactau sy'n dod â hanes hir y wlad fechan hon yn fyw. Fodd bynnag, heddiw, mae diwyllaint yr ardal yn amrywio o'r hyn y mae'r Brifysgol fel canolfan ragoriaeth yn ei darparu i'r ffurfiau mwy digymell y mae'r cymunedau gwledig o amgylch Aberystwyth a'r dref ei hunan yn eu cynnig. Mae'n amrywio o eisteddfodau a chyngherddau mewn neuaddau pentref i ymgynnull yn anffurfiol i ganu, barddoniaeth ac adrodd straeon yn y tafarnau lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r Cymry'n mwynhau canu ac weithiau'n fodlon rhannu alaw fach os gofynnir iddynt. Mae Canolfan y Celfyddydau ar y bryn uwchben Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o adloniant yn ogystal â llwyfan i'r celfyddydau gweledol. Mae pedwar lleoliad y gr ŵp Celf yn y Dre/Art on the Town, sef Canolfan y Celfyddydau, y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion a'r Ysgol Gelf yn cynnig rhaglen fywiog o arddangosfeydd. |