Chwilio'r Safle

Digwyddiad Nesaf

Dim digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Mae gennym 23 o westeion a 1 aelod arlein
WAG Logo
Pysgota

Mae Aberystwyth a'r ardal gyfagos yn cynnig cyfleoedd pysgota rhagorol i bysgotwyr m ôr a physgotwyr afonydd ill dau! Yn ogystal â bod yn fforddiadwy, mae pysgota yn y rhanbarth yn hygyrch i'r cyhoedd am ei fod dan ofal cymdeithasau lleol neu gyrff cyhoeddus yn bennaf.

Pysgota Môr Mae Bae Ceredigion yn adnabyddus am ei ysbinbysg y môr a merfog du a gellir hurio cychod o'r harbwr yn Aberystwyth.

Pysgota Afonydd a Llynnoedd Mae amrywiaeth wych o brofiadau pysgota  â gwialen ar gael mewn tirluniau sydd â rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghymru ac mewn encilion heddychlon lle does prin neb yno. Mae perfeddwlad fynyddig, brydferth Cymru yn agos ac mae yma ddŵr clir, awyr glân a golygfeydd trawiadol o fynyddoedd, rhostiroedd a dyffrynnoedd. Dyma gartref barcutiaid coch, boncathod, cigfrain, dyfrgwn, a rhywogaethau eraill; cewch fwynhau pleserau syml cefn gwlad a chael dianc rhag popeth.  

Ewch i bysgota sewin ac eog ar yr afonydd; brithyll brown a brithyll seithliw mewn llynnoedd a chronfeydd dŵr; neu, os byddai'n well gennych chi, pysgodfeydd pysgod bras bychain. Mae afonydd Cymru'n enwog am bysgota sewin neu frithyll y môr. Mae rhediadau da o bysgod hynod a chufle i ddal sewin gymaint o ran maint ag y daliwch unrhyw le arall ym Mhrydain yn afonydd Rheidiol ac Ystwyth, sy'n cwrdd  â'r môr yn Aberystwyth. Mae pysgod hyd at 10Ib yn gyffredin, a phob blwyddyn mae nifer o bysgod yn cael eu dal mewn rhifau dwbl. Os yw'r amodau dal yn iawn, gall y pysgota sewin fod yn rhagorol. Pysgotwch yn y nos mewn dŵr isel gyda phlu pysgota ac, os yw'r afonydd yn uchel, rhowch gynnig gyda phlu pysgota, plu tro neu abwyd yn ystod y dydd.          

Afon o lifeiriant yw afon Ystwyth, a gall ei lefelau newid yn llwyr felly mae llif y dŵr yn allweddol; mae cynllun pŵer hydro-electrig ar yr afon Rheidiol felly rheolir y llifeiriant a gellir cael lefelau da hyd yn oed yn ystod cyfnodau sych yr haf. Mae'r ddwy afon yn cynnig rhediadau bychain o eog ddiwedd haf ond cyffro'r sewin neu frithyll y môr yw prif atyniad yr afonydd hyn. Cymdeithas Bysgota Aberystwyth sy'n rheoli un filltir ar bymtheg, dwy lan afon Rheidiol a chyfran o ran isaf yr Ystwyth. Mae gan Gymdeithas Bysgota Llanilar hawliau helaeth ar yr Ystwyth. Mae'r ddwy gymdeithas yn croesawu pysotwyr sy'n ymweld. 

Gallech gyfuno pysgota afonydd gyda physgota dŵr llonydd os oes egni ar ôl gennych chi. Mae nifer o lynnoedd uwchdir bychain yn yr ardal, yn cynnwys llynnoedd Trisant a Phenrhyncoch a reolir gan Gymdeithas Bysgota Aberystwyth.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Gwybodaeth i Ymwelwyr yn Aberystwyth ar 01970 612125 neu ewch i www.anglerswelcome.com