| Cerdded |
|
Mae Aberystwyth yn fan cychwyn gwych ar gyfer gwyliau cerdded, wedi'i leoli ar y llwybr arfordirol a chyda bryniau Mynyddoedd Cambria gerllaw yn fantais. Teithiau Cerdded o Ganol Dref Aberystwyth Y mwyaf poblogaidd o fewn y dref, ac eithrio'r daith milltir o gerdded ar hyd y Promenâd, yw'r hyn y gellid ei alw'n deithiau cerdded Y Tri Bryn, neu 'Three Hills' sy'n cynnwys Craig Glais, Parc Narur Penglais a Phendinas. Yn y pen draw bydd llwybr trwy goedwig Parc Natur Penglais yn mynd â chi i'r pentref sydd nesaf at Clarach, sef Llangorwen. Mae'r daith gerdded bob amser yn bleser, yn arbennig pan mae clychau'r gog yn eu blodau. Mae taith gerdded Pendinas yn mynd â chi i gopa bryngaer Oes Haearn sy'n dyddio nôl mwy na 2,000 o flynyddoedd. Y gred yw taw dyma Allt Faelor o fyd barddoniaeth Geltaidd. Codwyd y gofgolofn, sydd mewn siâp cyflegr ben i waered, ym 1852 er cof am Ddug Wellington. O ochr Tanybwlch i'r Harbwr, mae'r llwybr gwastad glan yr afon a elwir yn "Llwybr Geifr" yn ymestyn i Rydyfelin ar hyd a adwaenir ar un adeg yn llwybr Reilffordd i Gaerfyrddin. Taith Pensaernïol Cliciwch yma am fanylion ar daith diddordol pensaernïol o amgylch dref Aberystwyth. |
