| Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
|
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ganolfan ymchwil flaenllaw ar gyfer diddordebau Cymreig a Cheltaidd yn ogystal รข hanes teuluol, ac mae ei chasgliadau yn cynnwys bron i 5 miliwn o lyfrau a miliwn o ffotograffau. Cynhelir arddangosfeydd, rhai ar hanes cymdeithasol a chelfyddydol, drwy gydol y flwyddyn ac mae'r mynediad yn rhad ac am ddim. Mae croeso i ymwelwyr hefyd ym mwyty ffasiynol Pen Dinas ac yn siop y Llyfrgell sy'n gwerthu detholiad unigryw o eitemau celf a chrefft a llenyddol. Mae sinema ac awdiroriwm newydd y Drwm yn darparu ystod eang o ddigwyddiadau, ffilmiau a thrafodaethau sydd hefyd yn agored i'r cyhoedd. |