| Tywyslyfr |
|
Mae'r Tywyslyfr Aberystwyth yn adnodd defnyddiol i ddysgu mwy am Aberystwyth a'r cyffiniau ynghyd ag eitemau megis Pysgota yn yr ardal. Mae'r llyfr yn cynnwys map o'r dref ac mae nifer o fusnesau wedi cymryd y cyfle i hysbysebu ynddo. Os ydych yn chwilio am gigydd neu gyfreithiwr, siop ddillad neu flodau dyma'r llyfr i chi! Mae tywyslyfr 2010/2011 a gafodd ei lawnsio ar y 13eg o Orffennaf yn awr ar gael naill ai yn y siopau lleol neu drwy ffonio Menter Aberystwyth ar 01970 628 725. Caiff y llyfryn ei gyhoeddi ar y cyd gyda Siambr Fasnach Aberystwyth ac mae ar gael yn rhad ac am ddim gyda 30,000 o gopiau yn cael eu gwneud o'r llyfryn 60 tudalen mae'n lyfr cynhwysfawr i'r rheiny sydd yn dod i Aberystwyth am y tro cyntaf neu'n dychwelyd. Os oes diddordeb gyda chi hysbysebu ynddo y flwyddyn nesaf cysylltwch a ni ar 01970 628 725. Tywyslyfr 2010-11
|
Pethau i'w Gwneud