|

Mae ras Dydd Gwyl Dewi eleni yn cael ei gynnal ar Dydd Gwener y 1af o Fawrth ar Promenade Aberystwyth, wrth ymyl y Bandstand. Fe fydd rasys ar gyfer bob oedran yn cynnwys ras pwshio bygi ar gyfer mamau/ tadau gyda plant bychain. Dewch i ymmyno yn yr hwyl!
|
|

Mae gan Aberystwyth frand newydd erbyn heddiw a fedr cael ei ddefnyddio gan unrhyw berson, fusnes neu fudiad sydd am hybu'r dref i'r ymgatrefwyr, ymwelwyr a thwristiaid. Mae'r brand yn ddim ond un elfen o briosect Menter Aberystwyth i "Greu naws lle yn Aberystwyth", mae'n cael ei ariannu gan Cynllun Datblygu Gwledig.
|
|
Darllen mwy...
|
|
|
Mae Brand newydd wedi cael ei ddylunio ar gyfer Aberystwyth er mwyn creu naws am le yn y dref a hybu'r enw.
Mae'r brand yn adlewyrchu gwahanol elfennau sydd yn y dref ac yn groesawgar, deinamic, bywiog ac yn ysbrydoli. Mae'n cwmpasu y gwahanol atyniadau a gynnigir o fewn y dref. Medr ddefnyddio'r brand mewn unrhyw liw gyda neu heb y linell strap.
Y gobaith yw y bydd y brand yn:-
- ei gwneud hi'n haws i ddenu ymwelwyr i'r dref
- yn ein cynorthwyo i werthu ein nwyddau a'n gwasanaethau
- yn rhoi cyfeiriad i'r elfen farchnata sy'n gysylltiedig a Aberystwyth.
Mae popeth sydd ei angen arnoch i ddefnyddio'r brand yma.
Canllawiau Brand Aberystwyth
Os hoffech ddefnyddio'r brand ebostiwch
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
gan nodi'r lliw neu ymwelwch a'r wefan Saesneg.
|
|
Mae'r Tywyslyfr Aberystwyth yn adnodd defnyddiol i ddysgu mwy am Aberystwyth a'r cyffiniau ynghyd ag eitemau megis Pysgota yn yr ardal. Mae'r llyfr yn cynnwys map o'r dref ac mae nifer o fusnesau wedi cymryd y cyfle i hysbysebu ynddo. Os ydych yn chwilio am gigydd neu gyfreithiwr, siop ddillad neu flodau dyma'r llyfr i chi! Mae tywyslyfr 2010/2011 a gafodd ei lawnsio ar y 13eg o Orffennaf yn awr ar gael naill ai yn y siopau lleol neu drwy ffonio Menter Aberystwyth ar 01970 628 725.
|
|
Darllen mwy...
|
|
|